Cartref

Cerddor wyf sy,n cyfansodi, perfformio, dysgu ac sy'n hoffi arbrofi a difyfyrwaith, Gadewis Gymru pan oeddwn yn17 oed pan benderfynais grwydro'r byd. A dyna beth wyf wedi wneud.

Mae fy ngwaith yn dal i fynd a fi i lefydd annisgwyl yn y byd. Syndod i mi yw sut mae y gwahoddiadau yn arwain i brofiadau o lefydd newydd o hyd.

Feddyliais i erioed y buaswn yn gwrando ar fenywod o Fadagasgar yn canu caneuon traddodiadol mewn bws oedd yn teithio yn araf, araf dros ffordd anwastad llawn tyllau enfawr a grewyd gan lifogydd.

Neu mynd ar goll yn anialwch Gobi ganol nos yn yfed diod y Mongoliaid i gadw'n gynes tra yn dysgu can Rod Stewart'I am Sailing" i un o gantorion enwocaf  Xhoomi y Mongoliaid.

Cael gwersi canu Cerddoriaeth Ouhm Khalsoum ar Felucca tra'n teithio lawr y Nile yn yr Aifft.

Bob dydd rwyf yn meddwl fy mod yn ffodus iawn i fod yn gerddor. Rwyf yn ennill bywioliaeth wrth wneud yr hyn a garaf yn fwy na dim. Mae yn anrhydedd.

Mae cerddoriaeth yn iaith gyfanfydol. Mewn byd peryglus ble mae bygythiad o derfysg yn barhaol rwyf ynawyddus i wneud gwaith syn ddathliad o ddiwylliant Mwslinaidd a Gorllewinol.

Dyma fy ffordd o orchfygu yr hunllef o ddiffyg grym i newid anghyfiawnderau y byd.

Rwyf yn awr wedi dod yn ol i Gymru i ail ddarganfod fy ngwreiddiau.

Mae y mynyddoedd a thirwedd fy mhlentyndod yn fy ngalw yn ol.

 

Rwyf am ail gysylltu a mannau arbennig, clywed a siarad Cymraeg eto a gobeithio gweithio efo cerddorion yng Nghymru.

Yn y wefan hon gallwch gael hanes y prosiectau, gwrando ar rhai tracs, prynnu CD, Dod i wybod am y perfformiadau a'r gigs sydd i ddod.

Mwynhewch